Trosolwg o Wasanaethau Digartrefedd y Gymdeithas Gofal
Prosiect Lloches Nos
Nod cyffredinol y Prosiect Lloches Nos yw lleihau digartrefedd a digartrefedd mynych yng Nghanolbarth Cymru trwy ddarparu llety diogel ar gyfer “cysgwyr y stryd” a phobl ddigartref. Ar ben hynny, mae’r prosiect yn anelu at gyflawni “deilliannau adsefydlu cadarnhaol” trwy ymgysylltu â’r defnyddwyr gwasanaeth, gan ddarparu cefnogaeth a gweithgareddau ar eu cyfer ynghyd â chyngor ar dai, budd-daliadau lles a chyllidebu, a chyfeiriadau at asiantaethau arbenigol.
Mae’r prosiect yn cynnwys lloches nos sy’n darparu mynediad 24 awr y dydd drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni’n rhoi pwyslais ar sefydlogrwydd hirdymor, gan roi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth nodi ac ymdrin â materion penodol dros y tymor hwy wrth letya o fewn y prosiect.
Tra bod y defnyddwyr gwasanaeth yn preswylio o fewn y prosiect, bydd Cynllun Gosodiadau Cymdeithasol y Gymdeithas Gofal yn ymchwilio i opsiynau tai posibl ar eu cyfer gyda golwg ar fyw’n annibynnol yn y dyfodol. Mae ein Rhaglen Ailsefydlu yn gweithio’n llwyddiannus ochr yn ochr â Chynllun Bond a Chynllun Gosodiadau Cymdeithasol y Gymdeithas Gofal.
Mae staff ar gael yn y Lloches Nos ddydd a nos, ac maen nhw’n Weithwyr Prosiectau Nos hyfforddedig a chymwys sy’n gallu galw ar gefnogaeth bellach pan fo angen.
Gwasanaeth Galw Heibio i Gysgwyr y Stryd
Mae’r Gymdeithas Gofal, ar y cyd â’r Wallich, Cymdeithas Tai Wales & West a’r Awdurdod Lleol yn rhedeg gwasanaeth galw heibio i gysgwyr y stryd a leolwyd yn Lloches Nos y Gymdeithas Gofal yn Aberystwyth. Gellir cyrchu’r gwasanaeth hwn trwy drefnu apwyntiad â naill ai Tîm Cymorth y Gymdeithas Gofal neu Swyddog Tai y Wallich. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth ar gael yn y boreau o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd y Gweithwyr Cymorth yn gofyn i gysgwyr y stryd lenwi rhai manylion personol, gan gynnig cymorth ar unrhyw fater y dymunant eu codi neu gynnal sgwrs dros baned o goffi. Cânt fynediad i gyfleusterau golchi a sychu dillad, yn ogystal â chawod boeth a bwyd a diod.
Os hoffech chi wneud apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth hwn, yna ffoniwch neu cysylltwch â ni.
Cynllun Llety Dros Dro
O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol ddarparu llety dros dro i bobl benodol sy’n ddigartref neu a allai fod yn ddigartref, ac sy’n meddu ar anghenion o’r pwys mwyaf. Mae’r Gymdeithas Gofal yn derbyn yr atgyfeiriadau digartrefedd hyn gan yr Awdurdod Lleol ac yn darparu ac yn rheoli llety dros dro ar draws y Sir i gartrefu’r bobl dan sylw.
Mae’r llety a gynigir yn ddiogel ac mae gan bawb sy’n cael eu lletya fynediad syth at wasanaethau eraill y Gymdeithas Gofal i’w helpu naill ai yn y tymor byr, h.y. cymorth ynghylch budd-daliadau lles, cyfeirio at asiantaethau arbenigol, llenwi ffurflenni ac ati, neu yn y tymor hir, h.y. cymorth ynghylch mynediad i’r farchnad rhentu preifat drwy Asiantaeth Gosodiadau Cymdeithasol a Chynllun Bond y Gymdeithas Gofal, cyngor ar symud, ac ati.
Prosiect Pobl Ifanc
Wedi’i leoli yn Aberteifi mewn cartref â phedair ystafell wely, mae Prosiect Pobl Ifanc y Gymdeithas Gofal yn darparu amgylchedd diogel a chyfeillgar er mwyn cefnogi pobl ifanc i gyflawni nodau a dyheadau cyraeddadwy. Mae gan bob preswylydd Weithiwr Cymorth Penodedig a fydd yn rhoi help iddynt ennill sgiliau fel y gallant fyw’n annibynnol yn eu tenantiaethau eu hunain yn y dyfodol. I ddod yn rhan o’r prosiect, rhaid i bobl fod rhwng 16 a 25 oed, yn fregus, mewn angen tai neu’n byw mewn cartrefi nad ydynt yn ddiogel na’n sefydlog, ac yn medru dangos tystiolaeth o’u gallu i dalu rhent. Gall unigolion atgyfeirio’u hunain trwy ddefnyddio manylion cyswllt y Gymdeithas Gofal ar y dudalen Cymorth neu’r dudalen Cysylltu â Ni. Mae’n gyffredin i atgyfeiriadau ddod yn uniongyrchol o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol neu Adran Tai yr Awdurdod Lleol.
Prosiect Tai yn Gyntaf i Ieuenctid
Wedi’i leoli yn Aberystwyth mewn bloc o bum fflat hunangynhwysol, mae Prosiect Tai yn Gyntaf i Ieuenctid wedi’i gynllunio gan y Gymdeithas Gofal i fynd i’r afael ag anghenion sy’n gysylltiedig â datblygu oedolion ifanc rhwng 18 a 25 oed. Nid cael cartref unigol yw’r nod allweddol ond cael cefnogaeth i gamu’n llwyddiannus tuag at annibyniaeth a llesiant.
Mae’r prosiect yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu gadael digartrefedd gyda chymorth sy’n rhoi ystyriaeth i’w trawma, er mwyn sefydlogi’u llety a’u helpu i gamu i fyd oedolion mewn ffordd sy’n ddiogel, yn gynlluniedig ac yn gwarantu’u llesiant. Mae model y Gymdeithas Gofal yn darparu ymyriadau sy’n galluogi pobl ifanc i gael cymorth a chefnogaeth am y cyfnod sydd ei angen arnynt. O ganlyniad, gallant wella, tyfu ac aeddfedu, a chymryd rhan mewn cyfleoedd ysgol, coleg neu gyflogaeth a chael eu cynnwys yn gymdeithasol o fewn eu cymunedau.