Search
Close this search box.

Amdanom ni

Croeso i’r Gymdeithas Gofal

Rydyn ni’n Elusen Gofrestredig sy’n darparu gwasanaethau tai, digartrefedd a chymorth ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae gan y Gymdeithas Gofal wybodaeth drylwyr ac eang am yr ardal unigryw hon o ran ei daearyddiaeth, ei diwylliant a’i phobl. Rydyn ni’n angerddol am wneud gwelliannau go iawn i fywydau pobl trwy ddulliau ymarferol ac uniongyrchol. Yn lleol, rydyn ni wedi bod yn gyfrifol am ostyngiadau sylweddol mewn digartrefedd, gan roi’r help sydd ei angen ar bobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Rydyn ni’n helpu ystod eang o bobl, gan gynnwys yr aelodau mwyaf bregus yn ein cymdeithas, fel y gallant ymgysylltu â’u cymunedau a threulio’u bywydau mewn modd mwy egnïol a gwerth chweil. A thrwy wneud hynny, rydyn ni wedi helpu i leihau’r pwysau a’r galw ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac iechyd lleol.

cyCymraeg